Text Box: Christine Chapman AC
 Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
 Tŷ Hywel
 Bae Caerdydd
 CF99 1NA
 Tachwedd 2015

 

 

Annwyl Christine

Deiseb P-04-632 Mynyddoedd Pawb

Mae'r Pwyllgor Deisebau wedi bod yn ystyried y ddeiseb ganlynol gan Mynyddoedd Pawb ers mis Mai eleni.

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddarbwyllo cyrff a sefydliadau i ddiogelu a pharchu ein cyfoeth o enwau lleoedd er mwyn:

1) ysgogi parch a diddordeb yn yr iaith Gymraeg ac i sicrhau a chynyddu'r defnydd ohoni.

2) cynyddu'r ymdeimlad o hunaniaeth ymysg cymunedau lleol drwy rannu cyfoeth ein treftadaeth ddiwyllianol gydag eraill.

3) ennyn diddordeb ac ymwybyddiaeth ymwelwyr o gyfoeth ein treftadaeth leol a thrwy hynny ddod a buddion addysgol ac economaidd i ardaloedd.

Gellid cyflawni hyn trwy:

·         weithio gyda chanolfannau awyr agored er mwyn codi eu hymwybyddiaeth o enwau lleoedd traddodiadol brodorol, ac er mwyn eu cefnogi i ddefnyddio enwau lleoedd Cymraeg yn eu gwaith o ddydd i ddydd.

·         tynnu sylw at gyfoeth ein henwau lleoedd o ran ein treftadaeth ddiwylliannol, a’r hyn y gallant ei gyfleu trwy addysgu am hanes, daearyddiaeth, chwedloniaeth a defnydd tir hanesyddol ein gwlad.

·         darbwyllo Llywodraeth Cymru i ddod ag enwau lleoedd traddodiadol a hir sefydlog dan reolaeth gynllunio.

(Mae deiseb ysgrifenedig yn cyd-redeg.)

 

Gwybodaeth ychwanegol

Rydym o’r farn y dylid codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd diogelu enwau lleoedd Cymraeg, a bod gan sefydliadau a chymdeithasau gwirfoddol, yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, ran allweddol yn y gorchwyl.

Hefyd, dylai ysgolion sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael cyfle i werthfawrogi cyfoeth enwau lleoedd Cymraeg fel rhan o'u treftadaeth genedlaethol.

Credwn y dylai enwau lleoedd ynghyd a'r dreftadaeth a'r hanes sy'n gysylltiedig â nhw, fod yn rhan annatod o gyrsiau astudiaethau'r amgylchedd mewn addysg bellach ac addysg uwch, ac o gyrsiau gweithgareddau awyr agored sy’n cael eu rhedeg gan gyrff eraill. Dylid sicrhau bod cyrff hyfforddi, canolfannau a chlybiau sy’n ymwneud â mynydda a gweithgareddau awyr agored yn cael eu hannog i ddefnyddio enwau lleoedd Cymraeg.

 

Gofynnwn i'r Cynulliad Cenedlaethol bwysleisio pwysigrwydd hyn oll i Lywodraeth Cymru, fel y gall ddarbwyllo awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol ynghyd â chyrff eraill yn y sectorau statudol,  cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat i gymryd camau priodol i ddiogelu enwau lleoedd Cymraeg.

 

Yn ystod ein cyfarfod ar 6 Hydref, cytunodd y Pwyllgor y dylwn drosglwyddo manylion y ddeiseb i'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol fel y gallai eich Pwyllgor gadw mewn cof y materion y mae'n eu codi wrth ichi ystyried Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru).

 

Mae manylion y ddeiseb, gan gynnwys gohebiaeth a chamau gweithredu y cytunwyd arnynt, ar gael yn: http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=12672

 

Os bydd arnoch angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â thîm Clercio'r Pwyllgor Deisebau drwy anfon e-bost i SeneddDeisebau@cynulliad.cymru.

 

 

Yn gywir

 

 

William Powell AC

Cadeirydd